Sian Gwenllian yn lansio'r ddogfen yn Ysgol Feithrin Rhydaman
Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi dogfen ar gyfer cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg ar ôl beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio ag ymateb i’r her yn gynt.

Yn ôl Siân Gwenllian, llefarydd y blaid ar y Gymraeg, mae angen mynd ati’n syth os yw’r Llywodraeth am gyrraedd ei nod erbyn 2050.

Mewn cyfweliad â Golwg, mae’n dweud nad oes “llawer o symud” yn dod gan y Llywodraeth a’i bod yn poeni dros y posibilrwydd o greu deddfwriaeth newydd – gan arwain at fwy o oedi yn y broses.

Ond mae Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies, wedi dweud wrth golwg360 nad oes oedi, gan bwysleisio bod creu strategaeth ar gyfer miliwn o siaradwyr erbyn 2050 a chreu deddfwriaeth yn ddau beth ar wahân.

“Gwthio’r Llywodraeth ymlaen”

Dywedodd Siân Gwenllian, “Rydan ni isio helpu’r Llywodraeth i gyrraedd y nod yna, rydan ni isio gwthio’r Llywodraeth ymlaen, rydan ni isio gweld gweithredu yn yr holl feysydd sydd angen mynd i’r afael efo nhw.

“Felly dyna ydyn ni wedi gwneud yn Cyrraedd y Miliwn, dod â’r meysydd blaenoriaeth strategol sydd angen sylw – addysg, yr economi ac yn y blaen, ac wedi rhoi nhw at ei gilydd mewn un ddogfen er mwyn cyfrannu at y gwaith.”

Mae’r ddogfen, ‘Cyrraedd y Miliwn, gafodd ei hysgrifennu ar y cyd â chwmni iaith, IAITH, yn canolbwyntio’n bennaf ar feysydd addysg, Cymreigio’r gweithlu a datblygu economi ardaloedd sydd â’r nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg – y gogledd a’r gorllewin.

Ynddi, mae Plaid Cymru yn cynnig creu strategaeth arbennig ar gyfer “adnabod creu a diwallu’r angen am sgiliau Cymraeg fesul sector blaenoriaeth.”

Mae hefyd yn cynnig creu ardaloedd twf o fewn cadarnleoedd y Gymraeg, fel Glannau’r Fenai, Aberystwyth a Chaerfyrddin, a fydd yn gweithredu fel “hybiau Cymraeg” i ddenu pobol i aros yn eu hardaloedd neu ddod yn ôl.

Mwy am hyn yn rhifyn wythnos hon o gylchgrawn Golwg.