Canolfan Awyrofod Eryri (Llun: Elin Haf Edwards)
Mae hen faes awyr ger Harlech gam yn agosach at fod yn un o “borthladdoedd gofod” cynta’ gwledydd Prydain, yn ôl y cwmni sydd am weld y lle’n cael ei ddatblygu.

Bu tîm o Spaceport Cymru mewn cynhadledd yn Llundain ym mis Chwefror i drafod teithiau i’r gofod – ac fe gafodd achos ‘Canolfan Awyrofod Eryri’ yn Llanbedr, ei roi gerbron.

Roedd cynhadledd ‘Launch UK: Igniting the UK’s new space age’ ei chynnal gan y Gymdeithas Awyrennol, gyda chynrychiolwyr o borthladdoedd gofod eraill posib ledled gwledydd Prydain yn cyflwyno eu hachosion nhwthau.

Cystadleuol 

Beth sy’n gwneud achos Canolfan Awyrofod Eryri yn un deniadol?

* Ei safle ar yr arfordir i’r de o dre’ dwristaidd Harlech;

* Ei lleoliad o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, sy’n golygu bod nifer yr awyrennau sy’n hedfan uwchben yn isel;

* Ei hanes o fod yn faes arbrofi awyrennau di-beilot yn y gorffennol.

“Gwelsom wir ddiddordeb yn yr hyn sy’n digwydd yn Llanbedr,” meddai Prif Weithredwr Canolfan Awyrofod Eryri, Paul Lee.

“Mae hyn wedi arwain at nifer o drafodaethau calonogol iawn gyda defnyddwyr, gweithredwyr porthladdoedd gofod rhyngwladol a chwmnïau lansio lloeren yn ogystal â rheoleiddwyr.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac Asiantaeth Ofod y Deyrnas Unedig wedi dangos diddordeb hefyd,” meddai.

Fe allai’r teithiau cyson i’r gofod ddigwydd mor fuan â 2020.