Trwydded pysgota (Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru)
Gall plant rhwng 12 ac 16 oed gael gwialen a thrwydded bysgota am ddim fel rhan o gynllun newydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Daw hyn wrth i brisiau trwyddedau pysgota gwialen godi am y tro cyntaf ers 2010, gyda thrwydded pysgota bras lawn yn codi o £27 i £30 a thrwydded eog a sewin yn codi o £72 i £82.

Gobaith y cynllun yw annog mwy o bobol ifanc i ymddiddori mewn pysgota gan ddiogelu’r grefft i’r dyfodol.

Bydd yr incwm ychwanegol o’r trwyddedau’n cael ei ddefnyddio i wella pysgodfeydd a chyfleusterau pysgotwyr.

‘Llesol i iechyd’

“Nid yn unig bod denu pobol ifanc i gychwyn pysgota yn llesol i’w hiechyd corfforol a meddyliol,  mae hefyd yn rhoi cyfle iddyn nhw gysylltu â byd natur yn ei amryw ffurfiau,” meddai Rob Evans, Cynghorwr Pysgodfeydd Dŵr Croyw Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae newidiadau eraill i drwyddedau pysgota yn cynnwys trwydded dreiglol sy’n para 365 diwrnod yn hytrach na phara hyd at ddiwedd Mawrth i’w defnyddio yn ystod y tymor pysgota.

Dim ond un drwydded, yn hytrach na dwy, fydd ei hangen ar gyfer tair gwialen, ac mae’r penderfyniad wedi’i groesawu gan bysgotwyr bras arbenigol.

Bydd angen i blant gofrestru ar-lein am y drwydded am ddim, ac mae gwybodaeth ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, ‘Get a Fishing Licence’ ar wefan Llywodraeth Prydain neu wrth alw’r Swyddfa’r Post neu Asiantaeth yr Amgylchedd.