Llun: PA
Mae cyhoeddiad ystadegau diweddar yn profi byddai gadael y farchnad sengl yn “drychinebus” i economi Cymru, yn ôl Plaid Cymru.

Dywed Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, bod yr ystadegau yn dangos bod “parhau i fod yn aelod o’r farchnad sengl yn hanfodol i economi Cymru.”

Mae llefarydd Busnes, yr Economi a Chyllid y blaid, Adam Price yn dweud bod yr ystadegau “yn amlygu’r ffaith mai’r farchnad sengl yw partner masnach fwyaf Cymru.”

Yn ôl yr ystadegau a gafodd eu rhyddhau gan Gyllid a Thollau ei Mawrhydi, Marchnad Sengl Ewrop yw prif bartner masnach Cymru o hyd, gyda dau draean o’r cynnyrch sy’n cael ei allforio yn teithio yno.

Yn 2016 roedd allforion Cymru yn werth £12,337 miliwn a chafodd £8,257 miliwn o’r ffigwr yma ei allforio i Ewrop.

Mae’r ystadegau hefyd yn dangos bod gwerth cynnyrch sydd yn dod mewn i Gymru bellach yn uwch na gwerth y cynnyrch sy’n gadael y wlad

Hanfodol i economi Cymru

“Mae’r ystadegau diweddaraf yn cefnogi’r hyn mae Plaid Cymru wedi bod yn dweud ers y refferendwm y llynedd – mae parhau i fod yn aelod o’r farchnad sengl yn hanfodol i allforion Cymreig a’r economi ehangach,” meddai Llefarydd Trysorlys y blaid, Jonathan Edwards.

“Gall bygythiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i dorri pob cyswllt ag Ewrop heb benderfynu ar gytundebau masnach, fod yn drychinebus i’r economi Cymreig o ystyried bod dau draean o’r cynnyrch yr ydym yn allforio o fewn y farchnad sengl.”

Partner masnach fwyaf

“Mae’r ystadegau yn amlygu’r ffaith mai’r farchnad sengl yw partner masnach fwyaf Cymru, gyda 67% o’n hallforion yn teithio yno,” meddai Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Adam Price.

“Mae gan Gymru hanes balch fel cenedl sy’n allforio. Fodd bynnag mae’r ffigurau newydd yn datgelu bod gan Gymru ddiffyg masnachol. Tra bod cynnyrch sy’n cael ei allforio wedi cynyddu ychydig, mae’r ystadegau yma yn achos pryder difrifol a dylai Llywodraeth Cymru dalu sylw.”