Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi
Mae  ymgynghoriad wedi dechrau gyda’r bwriad o ddod o hyd i ateb i broblemau traffig ar hyd Coridor Glannau Dyfrdwy.

Prif nod ymgynghoriad 12 wythnos Llywodraeth Cymru yw ystyried dau opsiwn posib fyddai’n lleddfu problemau coridor prysur yr A55/A494/A548.

Un opsiwn caiff ei ystyried yw lledu’r llwybr A55/A494 ac opsiwn arall yw gwella ffordd yr A548 a chreu ffordd newydd rhwng yr A55 a’r A548.

“Mae’r ddau gynnig hyn yn cynrychioli gwelliannau a buddsoddiad sylweddol, gyda chostau’n uwch na £200 miliwn,” meddai Ysgrifennydd yr Economi Llywodraeth Cymru, Ken Skates.

“Dyna pam fod ymgynghoriad cynhwysfawr mor bwysig er mwyn sicrhau’r datrysiad gorau posibl ar gyfer y rhanbarth a’i gymunedau.”

Fel rhan o’r ymgynghoriad bydd arddangosfeydd cyhoeddus yn cael eu cynnal yng Nghlwb Cymdeithasol Ewloe ar Fawrth 21 a 22, a Choleg Cambria ar Fawrth 23 a 24.