Llun gwneud o garchar Y Berwyn, Wrecsam
Mae un o gynghorwyr Y Bala wedi dweud ei fod yn cael trafferth cysylltu â’r awdurdodau sy’n gyfrifol am weinyddu carchar y Berwyn yn Wrecsam er mwyn trafod newid enw’r adain ‘Bala’ ynddo.

Daw hyn wedi i aelodau Cyngor Tref Y Bala bleidleisio yn unfrydol nos Lun i wrthwynebu enwi adain o’r carchar yn ‘Bala’, gyda dros 300 o bobol wedi arwyddo deiseb ar-lein i wrthwynebu hynny.

Ond dywed Dilwyn Morgan, sy’n cynrychioli ward Y Bala ar Gyngor Gwynedd, nad ydy e wedi llwyddo i drefnu dyddiad gydag awdurdodau’r carchar i drafod y mater.

‘Drwgdeimlad’

“Mae yna wrthwynebiad cryf iawn i’r enw, ac i feddwl ei fod o’n fater mor fach, dw i’n synnu fod yr awdurdodau jest ddim yn ei newid o’n syth,” meddai Dilwyn Morgan wrth Golwg360.

“Dw i’n weld o’n ddibwrpas i beidio â’i newid o, achos mae yna ewyllys da yn yr ardal hon i Gymreigio’r carchar ac i fod o gymorth mewn unrhyw ffordd i gael yr agwedd Gymraeg ynddo fo ond mae hyn yn creu drwgdeimlad braidd,” meddai wedyn.

Dywedodd ei fod yntau, ynghyd â’r Cyngor Tref a’r Aelod Seneddol Liz Saville Roberts yn ceisio sicrhau cyfarfod â Russ Trent, Llywodraethwr Carchar y Berwyn, o fewn yr wythnosau nesaf.

“Dan ni methu cael ateb o gwbl ar hyn o bryd,” ychwanegodd.

HMP Berwyn

Cafodd yr enw ‘Bala’ ar adain gynta’r carchar ei gyhoeddi bythefnos yn ôl, ac fe agorodd y carchar ar Chwefror 28.

Mae’r enwau eraill a gafodd eu cynnig ar gyfer yr adain gan ysgolion, cymunedau a chymdeithasau hanesyddol yn cynnwys Bridgeway, Marcher, Cerrig Tan, Dee Vale a Whittlesham.

Carchar Categori C i ddynion yw’r Berwyn, ac fe gostiodd £250 miliwn i’w godi.

Pan fydd yn cael ei gwblhau, fe fydd yr un maint â charchar mwyaf gwledydd Prydain, HMP Oakwood yng nghanolbarth Lloegr, gyda lle i 2,106 o garcharorion.

Mae disgwyl i 1,000 o swyddi newydd gael eu creu o ganlyniad i adeiladu’r carchar newydd, gyda’r ddwy adain arall yn cael eu codi erbyn yr hydref.