Taith Baton Gemau'r Gymanwlad Cymru (Llun: Tîm Cymru)
Mae llwybr taith baton y Frenhines o gwmpas Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad wedi’i chyhoeddi.

Bydd y baton yn teithio dros Gymru am bedwar diwrnod ym mis Medi cyn Gemau’r Gymanwlad Arfordir Aur Awstralia yn 2018.

Ar ddiwrnod cyntaf y daith mi fydd  y baton yn teithio o Abertawe i Gaerdydd cyn parhau tuag at Gasnewydd ar y diwrnod olynol.

Yn ystod deuddydd olaf y daith mi fydd y baton yn ymlwybro tuag at y Gogledd gan alw heibio’r Trallwng, Blaenau Ffestiniog, Yr Ysgwrn ger Trawsfynydd a chyrchfan y daith Gymreig sef Pwllheli.

Bydd y baton yn teithio 230,000 cilomedr dros 388 diwrnod drwy’r Gymanwlad, cyn cyrraedd pen y daith sef seremoni agoriadol y Gemau ar Ebrill 4, 2018.

“Nid yw pawb yn medru mynychu’r gemau felly trwy ddod â baton y Frenhines i gymunedau Cymreig rydym yn gobeithio y gallwn ysbrydoli a sbarduno balchder Cymreig yn eu hathletwyr,” meddai Chef de Mission Tîm Cymru, yr Athro Nicola Phillips.

Diwrnod 1 (Medi 5)

Abertawe – Swyddfeydd CGI, Penybont – Ynys y Barri – Caerdydd – Butetown

Diwrnod 2 (Medi 6)

Casnewydd – Ysgol Trefynwy – Y Bathdy Brenhinol, Llantrisant – Pontypridd

Diwrnod 3 (Medi 7)

Aberhonddu – Rhaeadr Gwy – Ysgolion Uwchradd a Chynradd Llanidloes – Ysgol Dafydd Llwyd, Y Drenewydd – Y Trallwng – Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug

Diwrnod 4 (Medi 8)

Zip World, Blaenau Ffestiniog – Yr Ysgwrn, Trawsfynydd – Dolgellau – Portmeirion – Porthmadog – Pwllheli