(llun: Rui Vieira/PA)
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddf newydd heddiw sy’n gwaredu â’r cynllun ‘Hawl i Brynu’ sy’n caniatáu pobol i brynu tai cymdeithasol ar ôl byw ynddyn nhw am gyfnod.

Mae’r cynllun yn deillio’n ôl i gyfnod Margaret Thatcher fel Prif Weinidog Prydain, ond mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu ei ddiddymu yng Nghymru er mwyn “diogelu nifer y tai cymdeithasol sydd ar gael.”

Maen nhw’n gobeithio y bydd hyn yn arwain at ddatblygu mwy o dai cymdeithasol, wrth i landlordiaid gael sicrwydd na fyddant yn cael eu gwerthu ar ôl cyfnod byr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo at greu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth.

‘Pwysau sylweddol’

“Mae ein tai cymdeithasol yn adnodd gwerthfawr, ond yn un sydd o dan bwysau sylweddol,” meddai Carl Sergeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau.

“Mae maint y stoc wedi lleihau’n sylweddol ers 1980 pan gafodd yr Hawl i Brynu ei chyflwyno. Mae nifer y tai a werthwyd yn cyfateb i 45% o’r stoc o dai cymdeithasol yn 1981,” meddai.

Er hyn roedd yn cydnabod fod y cynnig yn effeithio ar denantiaid sydd eisoes yn byw mewn tai cymdeithasol a dywedodd – “byddwn ni’n sicrhau bod tenantiaid yn ymwybodol o effaith y Bil mewn da bryd cyn i’r hawliau gael eu diddymu.”

 ‘Mwy o gartrefi’

Mae Sefydliad Siartredig Tai Cymru (CIH Cymru) wedi croesawu’r mesur, ond maen nhw’n pwysleisio fod angen mynd ymhellach na diddymu’r cynllun ‘Hawl i Brynu’ yn unig.

Mae’r cyfarwyddwr, Matthew Dicks, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i adeiladu mwy o dai cymdeithasol yng Nghymru.

“Efallai hefyd y bydd effaith uniongyrchol ar nifer o’n haelodau o’r sector awdurdod a throsglwyddo stoc leol o ran nifer y ceisiadau yn ystod y cyfnod nesaf, a bydd angen inni weithio’n agos â nhw i negydu unrhyw effaith negyddol ar adnoddau,” ychwanegodd.