April Jones Llun: Heddlu Dyfed Powys
Mae dadl yn cael ei chynnal yn Senedd San Steffan heddiw i drafod cosbau llymach i droseddwyr rhyw yn dilyn deiseb gan deulu’r ferch 5 oed o Fachynlleth, April Jones.

Mae’r ddeiseb ‘Cyfraith April’ wedi ennyn mwy na 100,000 o lofnodion ac mae’n galw am gadw troseddwyr rhyw ar y gofrestr droseddol am weddill eu hoes.

 

Fe gafodd April Jones ei chipio o’i chartref a’i lladd gan Mark Bridger yn 2012, ac fe ddaeth hi i’r amlwg wedi hynny fod ganddo fwy na 500 o luniau anweddus o blant ar ei gyfrifiadur.

Mae’r ymgyrch felly’n galw ar ddarparwyr gwasanaeth a pheiriannau chwilio’r we i gael eu plismona’n well o ran lluniau o gam-drin plant, gan bwyso hefyd am ddedfrydau llymach i’r rheiny sy’n cael eu dal â lluniau o’r fath yn eu meddiant.

Mae Llywodraeth Prydain wedi ymateb i’r ddeiseb gan ddweud fod ganddynt “rai o’r pwerau llymach yn y byd i ddelio â throseddwyr rhyw ac mae’r rheiny sy’n parhau i fod yn risg yn parhau’n amodol ar hysbysiad am weddill eu bywyd.”

‘Monitro’n llym’

“Rwy’n teimlo fod angen i’r we fod yn gryfach, a ddim mor hawdd i gael mynediad at y lluniau hyn,” meddai chwaer April Jones, Jazmin.

Dywedodd llefarydd ar ran NSPCC Cymru – “cyn bod unrhyw un yn dod oddi ar y gofrestr troseddwyr rhyw fe ddylen nhw wneud asesiad risg, ac os ydyn nhw’n dal yn fygythiad i blant dylen nhw barhau ar y gofrestr.

“Rydym hefyd yn credu y dylai’r rheiny ar y gofrestr gael eu monitro’n llym sy’n cynnwys ymweliadau cyson gan yr heddlu,” ychwanegodd.