Mae cwmni ffonau Vodafone wedi cyhoeddi y bydd yn creu 2,100 o swyddi fel rhan o’u cynlluniau i ehangu’r busnes.

Fe fydd y swyddi gwasanaeth cwsmeriaid yn cael eu creu yng Nghymru, yr Alban, a chanolbarth a gogledd Lloegr dros y ddwy flynedd nesaf.

Dywed Vodafone y bydd yn creu 800 o swyddi yn ei ganolfan gwasanaeth cwsmer ym Manceinion, gyda 150 yn Newark, 150 yn Stoke-on-Trent a tua 100 yng Nglasgow.

Yn ogystal, bydd partneriaid Vodafone sy’n darparu gofal cwsmeriaid yn creu 100 o swyddi newydd yng Nghaerdydd, 600 yn Newcastle upon Tyne a bron i 200 yng ngorllewin yr Alban.

Dywedodd prif weithredwr Vodafone yn y Deyrnas Unedig Nick Jeffery y byddai’r swyddi newydd yn gwneud “gwahaniaeth mawr” i’r 18 miliwn o gwsmeriaid yn y DU fel rhan o gynllun buddsoddi gwerth £2 biliwn dros gyfnod o dair blynedd.

“Ein nod yw rhoi’r profiad gorau posib i’n cwsmeriaid, gan ddarparu lefel o wasanaeth a chymorth arbennig wrth i ni barhau i fuddsoddi mewn adeiladu’r rhwydwaith mwyaf a gorau ym Mhrydain.”

Mae Vodafone yn cyflogi 3,700 o weithwyr yn ei wasanaeth gofal cwsmeriaid yn y DU – 2,450 o fewn y cwmni a 1,250 gyda phartneriaid eraill.

Mae gan y cwmni tua 12,500 o weithwyr yn y DU.