Mae dyn 21 oed wedi cael ei arestio yn dilyn ymosodiad difrifol yn Abertawe y bore ma.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Kingsway y ddinas toc cyn 3.30yb.

Cafodd dyn 22 oed ei gludo i’r ysbyty ag anafiadau, ond dydy ei fywyd ddim mewn perygl.

Mae’r dyn a gafodd ei arestio yn cael ei holi yn y ddalfa yng nghanol y ddinas.