Mark Williams (llun o'i wefan)
Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi pleidleisio i wrthod cynlluniau Llywodraeth Prydain i gyflwyno ‘Brexit caled’.

Ar ail ddiwrnod cynhadledd genedlaethol y blaid yn Abertawe, cafodd cynnig ei gyflwyno i wrthod y cynlluniau.

Mae’r cynnig yn cyfeirio at ganlyniad agos y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd, yr angen i barchu canlyniad y refferendwm a diffyg amser i drafod amodau’r cytundeb ag Ewrop cyn tanio Erthygl 50.

Mae’n mynegi pryder hefyd fod Llywodraeth Prydain wedi gwrthod aelodaeth o’r Farchnad Sengl ac wedi anwybyddu cyngor aelodau’r Undeb Ewropeaidd na all ddewis pa rannau o’r Undeb i fod yn aelod ohonyn nhw.

Mae’r cynnig hefyd yn mynegi pryder am yr arian y byddai Cymru’n ei golli drwy adael yr Undeb Ewropeaidd, ac y byddai nifer o sectorau yng Nghymru ar eu colled heb ffyrdd o sicrhau arian drwy’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’n cyfeirio hefyd at bryderon y byddai pobol ifanc yng Nghymru’n colli’r hawl i deithio, astudio, byw a gweithio yn unrhyw le yn yr Undeb Ewropeaidd, a bod diffyg sicrwydd i drigolion yr Undeb Ewropeaidd sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd.

Gofynion

Mae’r cynnig yn galw ar Lywodraeth Prydain i roi gwybod i’r Senedd am amcanion a datblygiadau’r trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd, i ail-ystyried yr angen am ‘Brexit caled’ er mwyn gwarchod yr economi, a sicrhau refferendwm arall ar amodau’r cytundeb i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r cynnig hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno’r achos i Lywodraeth Prydain o blaid sicrhau buddiannau Cymru yn ystod y trafodaethau, ac i fanteisio ar bob cyfle i fod yn rhan o’r trafodaethau.

‘Niwed’

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Mark Williams: “Byddai cynllun Theresa May i dynnu Cymru a’r DU allan o’r farchnad sengl yn gwneud niwed difesur i’n heconomi.

“Efallai bod Cymru wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond wnaeth pobol ddim pleidleisio o blaid gwneud Cymru’n dlotach.

“Er bod Llywodraeth Cymru wedi pleidleisio’n sylweddol o blaid Cymru’n aros yn y farchnad sengl, mae Theresa May wedi bwrw ymlaen beth bynnag, gyda Llafur Jeremy Corbyn y tu ôl iddi.

“Yr hyn sy’n glir yw na allwn ni gael economi gref a Brexit caled.”