Kingsway yn Abertawe
Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i ymosodiad difrifol yn Abertawe yn oriau man y bore.

Cafodd nifer o ffyrdd yng nghanol y ddinas eu cau wedi’r digwyddiad am 3.24 y bore ma.

Mae ffordd y Strand ynghau o hyd, ac mae’r heddlu hefyd yn ymchwilio ar y Kingsway ger gwesty’r Dragon.