Mae’r gwasanaeth awyr rhwng y de a’r gogledd wedi dod i ben ar ôl i’r cwmni fynd yn fethdalwyr.

Caiff y sawl a oedd eisoes wedi prynu tocynnau eu cynghori i’w defnyddio ar gyfer teithio ar y trên, gan y byddan nhw’n ddilys ar deithiau rhwng Bangor a gorsafoedd ym Môn a Chaerdydd.

Mae’r cwmni a oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth rhwng meysydd awyr Y Fali a Chaerdydd, Citiwing Aviation Services Limited, yn nwylo’r derbynwyr. Mae’r cwmni wedi bod mewn trafferthion dros y pythefnos ddiwethaf, ar ôl i’r cwmni a oedd yn hedfan yr awyrennau ar eu rhan, Van Air, golli eu trwydded i hedfan yn y Deyrnas Unedig.

Roedd hyn ar ôl i Van Air nhw geisio hedfan o Ynys Manaw i Belfast ddydd Iau 23 Chwefror yng nghanol storm Doris pryd roedd cwmnïau awyrennau eraill wedi canslo teithiau.

Yn y cyfamser, roedd Citywing wedi ceisio parhau â’u gwasanaethau trwy ddefnyddio contractwyr eraill, ond arweiniodd hynny at golledion mawr.

Wrth ddiolch i’w cwsmeriaid am eu cefnogaeth dros y pedair blynedd ddiwethaf, ac ymddiheuro am y trafferthion, dywed y cwmni y bydd gwybodaeth ar sut i gael ad-daliadau ar docynnau i’w gael ar wefan yr Awdurdod Hedfan Sifil www.caa.co.uk/home o ddydd Llun ymlaen.