Cymru 22–9 Iwerddon

Cafodd Cymru fuddugoliaeth dda wrth i Iwerddon ymweld â’r stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad nos Wener.

Roedd gobeithion Cymru o ennill y bencampwriaeth, er yn fathemategol bosib, fwy neu lai ar ben cyn y gêm ond adferwyd tipyn o hunan barch gyda pherfformiad a chanlyniad calonogol yn erbyn y Gwyddelod.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd Iwerddon yn dda ac roeddynt ar y blaen wedi saith munud diolch i gic gosb Johnny Sexton.

Cymru a gafodd gais cyntaf y gêm serch hynny union hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf, George North yn hyrddio trwy dacl Keith Earls a Simon Zebo yn y gornel chwith yn dilyn bylchiad Rhys Webb trwy’r canol.

Methodd Leigh Halfpenny’r trosiad ac roedd yr ymwelwyr yn ôl ar y blaen o fewn saith munud yn dilyn cic gosb Paddy Jackson.

Ond Cymru a orffennodd yr hanner orau, ac wedi i Sexton gael ei anfon i’r gell gosb am arafu’r bêl yn ardal y dacl, fe giciodd Halfpenny’r tîm cartref yn ôl ar y blaen, 8-6 y sgôr wrth droi.

Ail Hanner

Dechreuodd yr ail hanner fel y gorffennodd y cyntaf, gyda Chymru’n pwyso yn erbyn pedwar dyn ar ddeg y Gwyddelod, a fu dim rhaid aros yn hir am ail gais i North.

Cais syml a oedd hwn i’r asgellwr diolch i hyrddiad cryf y pac a meddwl chwim Rhys Webb. Llwyddodd Halfpenny gyda’r trosiad y tro hwn hefyd i ymestyn mantais ei dîm i naw pwynt.

Ciciodd Sexton y Gwyddelod yn ôl o fewn sgôr toc cyn yr awr a chafodd yr ymwelwyr gyfnod da yn chwarter olaf y gêm.

Roedd y capten, Rory Best, yn meddwl ei fod wedi croesi am gais ond roedd y dyfarnwr, Wayne Barnes, wedi sylwi ar drosedd yn y sgarmes symudol.

Roedd buddugoliaeth y Cymry’n ddiogel ddau funud o ddiwedd yr wyth deg pan groesodd Jamie Roberts wedi i Taulupe Faletau daro cic Sexton i lawr yng nghysgod pyst Iwerddon.

Pwysodd Cymru am bedwerydd cais a phwynt bonws wedi hynny ond bu rhaid iddynt fodloni ar y fuddugoliaeth yn unig.

Mae’r canlyniad yn rhoi Cymru’n drydydd yn y tabl wedi pedair gêm ond gall yr Alban a Ffrainc godi drostynt cyn diwedd y penwythnos.

.

Cymru

Ceisiau: George North 20’, 44’, Jamie Roberts 78’

Trosiadau: Leigh Halfpenny 46’, 79’

Cic Gosb: Leigh Halfpenny 39’

.

Iwerddon

Ciciau Cosb: Johnny Sexton 7’, 57’, Paddy Jackson 27’

Cerdyn Melyn: Johnny Sexton 38’