Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi asesiad iaith yn dilyn eu penderfyniad i beidio â lleoli’r Awdurdod Cyllid newydd ym Mhorthmadog.

Fe gafodd yr asesiad  – sydd  yn ofynnol dan y Safonau Iaith – ei gynnal gan Lywodraeth Cymru wrth benderfynu ar leoli’r swyddfeydd yn Nhrefforest ar gyrion Caerdydd.

“Cynhaliwyd asesiad o’r gofynion o ran sgiliau yn y Gymraeg ac fe’i defnyddiwyd wrth benderfynu ar leoliad pencadlys Awdurdod Cyllid Cymru,” meddai llefarydd y Llywodraeth. “Bydd yr Awdurdod yn sefydliad cwbl ddwyieithog a bydd yn gweithio law yn llaw â chwsmeriaid a’u hasiantau i godi ymwybyddiaeth o drethi newydd Cymru.”

Testun Pryder Mawr

Mewn llythyr i’r Prif Weinidog, Carwyn Jones mae Cymdeithas yr iaith yn dweud bod y penderfyniad i leoli’r swyddfeydd ar gyrion Caerdydd yn “destun pryder mawr” ac yn “gamgymeriad”.

Ers cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2011 mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn galw am adleoliad swyddi cyhoeddus o Gaerdydd er mwyn lleihau allfudo o gymunedau Cymraeg.

Mae’r Gymdeithas yn pwysleisio “pwysigrwydd economi gref yn ardaloedd yn y Gogledd a Gorllewin er mwyn sicrhau hyfywedd y Gymraeg”.

Bydd corff yr Awdurdod Cyllid, sy’n atebol i Weinidogion Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a threthdalwyr yng Nghymru yn dechrau ar ei waith ym mis Ebrill 2018 pan fydd rhai pwerau trethi yn cael eu datganoli.