Mae un o ymgeiswyr y Ceidwadwyr Cymreig yn etholiadau lleol Sir Gaerfyrddin wedi ei feirniadu am gael taflenni ymgyrchu heb Gymraeg arnyn nhw.

Ac mae Charlie Evans wedi denu mwy o feirniadaeth wrth drio amddiffyn ei daflenni uniaith Saesneg ar wefan Twitter, drwy ddweud bod pobol yn poeni mwy am wasanaethau iechyd meddwl a hawliau LGBT na’r iaith Gymraeg.

Hefyd mae wedi dweud bod “ysgolion dwyieithog [yn Sir Gaerfyrddin] yn cael eu troi yn ysgolion Cymraeg yn unig” a bod hynny’n “diwreiddio cannoedd o blant”.

Doedd Charlie Evans ddim yn fodlon trafod ei sylwadau tiwtter gyda golwg360, ond fe ddywedodd ei fod yn “ddysgwr Cymraeg ymrwymedig sy’n trio fy ngorau i siarad Cymraeg ar stepen y drws ac i fy nghwsmeriaid yn y gwaith”.

Ychwanegodd: “Mae gen i fwy o ddiddordeb mewn ymgyrchu dros wasanaethau ysbytai, ein hysgolion, Canolfan Hamdden Sir Gaerfyrddin neu ein Gwasanaeth Cerddoriaeth a’n triniaethau siarad iechyd meddwl.”

Mae’r Aelod Seneddol dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, Simon Hart,  wedi hoffi un sylw gan Charlie Evans ar Twitter yn dweud ei bod yn well gan bobol glywed am wasanaethau lleol na’r iaith Gymraeg.

“Brwydr bob dydd yn Sir Gâr”

Mae sylwadau Charlie Evans wedi codi gwrychyn Iola Wyn, cyn-reolwraig Canolfan Gymraeg Caerfyrddin, yr Atom.

“Be’ fi’n teimlo erbyn hyn yw bod brwydr barhaol bob dydd ar Twitter, ac am ryw reswm Sir Gâr yw e bob tro, lle mae arweinwyr ein cymunedau ni eisiau bod yn wleidyddion, eisiau cynrychioli ein cymunedau ni, ond dydyn nhw ddim yn parchu dwyieithrwydd,” meddai Iola Wyn.

“A phan mae cwestiwn rhesymol yn cael ei ofyn, pam nad yw rhywbeth yn ddwyieithog, mae’r ymateb amddiffynnol yma, haerllug, yn anhygoel o feddwl bod e’n digwydd yn Sir Gâr.

“Y broblem gyffredinol yw bod yna rai pobol a rhai ymgeiswyr yn teimlo mai rhyw atodiad yw’r Gymraeg ac mai pwnc yw e, taw thema yw e, yr union ru’n fath ag addysg neu iechyd.

“Mae’r sylw wedi cael ei roi yn ôl, ‘Does bosib nad yw hwn yn bwysicach na sefyllfa [ysbyty] Glangwili?’ Wel nid dyna’r ddadl.

“Nid pwnc yw’r Gymraeg, rhywbeth i’w siarad yn gwbl naturiol yw e.”

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd Gymraeg: “Nid yw ymgeiswyr etholiadol yn ddarostyngedig i ddyletswyddau statudol o dan Mesur y Gymraeg.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Suzy Davies AC, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros y Gymraeg.