Mae swyddfa Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth (Llun Golwg360)
Mae sefydliad iaith rhyngwladol sydd â’i swyddfa yn Aberystwyth yn dweud y gallai Brexit beryglu ei waith.

Mae Mercator yn gweithio ym maes ieithoedd lleiafrifol gyda nifer o brosiectau Ewropeaidd ac, yn ôl y pennaeth, fe fyddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn fygythiad i hynny.

Yn ôl yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr Mercator, mae’r corff yn gweithio gyda phobol o wahanol wledydd ar draws Ewrop, yn mynd i gynadleddau rhyngwladol ac yn gwneud gwaith maes mewn gwahanol wledydd.

“Mae’n hollbwysig ein bod ni’n cadw’r gallu i symud o gwmpas,” meddai mewn cyfweliad gyda Radio Wales.

Mae prosiectau Mercator yn cynnwys Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau sy’n hyrwyddo rhagor o gyfieithiadau o waith mewn ieithoedd llai.

Fe gafodd ei sefydlu yn 1988 ac mae’n rhestru saith o swyddi ar ei wefan.