Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi gorfod talu degau ar filoedd o bunnoedd mewn iawndal ar ôl i dribiwnlys ddod i’r casgliad ei fod wedi diswyddo person yn annheg.

Dywedodd y tribiwnlys fod Eirian Morris, oedd yn gydlynydd sgïo gyda Pharc Gwledig Pen-bre, wedi cael ei drin yn anghyfreithlon pan gafodd ei ddiswyddo.

Dyma’r ail dro i’r Cyngor orfod dalu miloedd o bunnoedd i weithiwr ac o ganlyniad, mae UNISON wedi beirniadu ymarferion cyflogi’r awdurdod.

Yn ôl yr undeb, mae’r Cyngor wedi gwario arian cyhoeddus ar achosion doedd dim modd i’w hennill a dywedodd y dylai ganolbwyntio ar gefnogi ei staff yn lle.

Yn ôl y tribiwnlys, roedd y broses o ddiswyddo Eirian Morris yn “anfoddhaol” a doedd y Cyngor “heb weithredu’n rhesymol” drwy fethu â rhoi cyngor iddo am swyddi eraill.

“Fe wnaeth y Cyngor fy mywyd yn uffern”

“Fe wnaeth Cyngor Sir Gâr droi fy mywyd ben i waered a fy rhoi drwy uffern. Fe wnes i ddioddef cyfnod ofnadwy o straen ac iselder o ganlyniad,” meddai Eirian Morris.

“Mae tribiwnlys wedi cydnabod bod yr awdurdod wedi ymddwyn yn afresymol ac wedi dyfarnu y dylai gwobr sylweddol gael ei thalu fel iawndal.

“Roeddwn yn gwybod mai fi oedd yn iawn… er y gwir yw, pe bai’r uwch swyddogion wedi gweithredu yn y ffordd gywir, byddwn ni wedi gallu osgoi’r broses hyn i gyd ac mae’n bosib y byddai swyddi gen i o hyd.”

Ymateb Cyngor Sir Gaerfyrddin

“Rydym yn fodlon na wnaeth y Tribiwnlys gefnogi honiad Mr Morris iddo golli ei swydd oherwydd y datgeliadau gwarchodedig (datgelu camarfer) a wnaed ganddo,” meddai’r Cynghorydd Meryl Gravell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden.

“Fodd bynnag, rydym yn derbyn bod diffyg yn un elfen o’r broses o ddileu swyddi a oedd wedi arwain at gadarnhau rhan o’r honiad hwn.

“Byddwn yn adolygu’r prosesau hyn fel mater o frys gan nodi ar yr un pryd ganfyddiad y tribiwnlys sef petai’r camgymeriadau hyn wedi cael eu cywiro, dim ond 50% o siawns fyddai wedi bod o hyd i osgoi dileu swydd Mr Morris.”