Mae cyn-gadeirydd UKIP yng Nghymru wedi gadael y blaid ac wedi ail-ymuno â’r Ceidwadwyr.

Fe ddywedodd grŵp UKIP yn y Cynulliad wrth golwg360 eu bod yn drist o weld Chris Smart yn gadael ond yn dymuno pob hwyl iddo yn y dyfodol.

Mae’n debyg iddo adael am ei fod yn anhapus dros sefyllfa’r blaid yng Nghymru a’i fod yn gweld y bydd hi’n gwneud yn wael yn yr etholiadau lleol ym mis Mai.

Mae Ukip yng Nghymru yn mynnu ei bod yn parhau i “weithio’n galed dros bobol Cymru”.

Mae hefyd yn siomedig dros y ffordd y deliodd Ukip â ffrae Nathan Gill, sydd wedi cael rhwydd hynt i barhau fel Aelod Cynulliad yn ogystal ag Aelod Seneddol Ewropeaidd.

Mae’n anhapus hefyd dros y ffraeo mewnol yn y blaid rhwng un o brif roddwyr Ukip, Arron Banks a’i hunig Aelod Seneddol, Douglas Carswell.

Ymateb UKIP

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Ukip yn y Cynulliad wrth golwg360, “Mae wastad yn drist gweld unrhyw aelod yn gadael y blaid. Rydym yn dymuno’n dda i Chris Smart.

“Rydym yn parhau fel plaid i weithio’n galed dros bobol Cymru.”

Roedd Chris Smart yn gadeirydd y blaid ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn gadeirydd dros dro i UKIP yng Nghymru.

Cyn hynny, bu’n aelod o’r Ceidwadwyr Cymreig.