Mark Isherwood AC
Mae’r Aelod Cynulliad Ceidwadol, Mark Isherwood wedi galw am drafod gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y gogledd.

Yr wythnos diwethaf, fe ddisgrifiodd y weledigaeth fel “ychydig iawn mwy na llen fwg”, ac fe gyhuddodd y Llywodraeth o anwybyddu’r alwad am ddatganoli pwerau economaidd i’r gogledd.

Yn ei ddatganiad wythnosol, dywedodd Mark Isherwood fod y mater yn “hanfodol” i’r gogledd, a bod angen trafod y mater yn y Cynulliad.

Ond fe ddywedodd fod angen “datganiad o leiaf”.

“Rydyn ni wedi bod yn aros am fisoedd lawer i Lywodraeth Cymru amlinellu ei hymateb i’r cynigion sydd wedi cael eu gwneud.

“Yn hytrach, fe gawson ni ddatganiad ysgrifenedig ddydd Iau diwethaf yn llawn ystrydebau, megis ‘bydd moderneiddio cludiant yng ngogledd Cymru a Metro Gogledd-ddwyrain Cymru yn cyfrannu at gyflawni ein hamcanion lles’ ac ‘mae cysylltiadau cryf rhwng economi gogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr’.

“Doedd dim angen datganiad i ddweud hynny wrthym…”

Cydweithio

Ychwanegodd Mark Isherwood fod dyfodol economaidd y gogledd yn dibynnu ar gydweithio rhwng llywodraethau San Steffan a Chaerdydd ac “ymateb yn adeiladol i’r cynigion”.

“Byddai’n frad ar ein rhanbarth ni pe bai methiant Llywodraeth Cymru i ddarparu ymateb amserol ac adeiladol yn atal Llywodraeth y Deyrnas Unedig rhag rhoi’r gefnogaeth sy’n cael ei chynnig,” meddai wedyn.