Mae dyn 48 oed o Abertawe wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gyflawni troseddau brawychol.

Cafodd ei arestio dan Ddeddf y Drefn Gyhoeddus, a’i ryddhau ar fechnïaeth wrth i’r ymchwiliad barhau.

Mae ymchwiliad ar y gweill i droseddau sy’n gysylltiedig ag “ideoleg asgell dde”, yn ôl yr heddlu.

Dywedodd llefarydd ar ran Uned Eithafiaeth a Gwrth-frawychiaeth Cymru eu bod nhw “wedi ymroi” i ymchwilio i bob achos o ideoleg eithafol yn y gymuned.