Mae mudiadau iaith yn honni bod y cwmni sydd eisiau codi atomfa newydd yn Sir Fon â gormod o ddylanwad tros bolisi iaith y cynllun.

Mae cymal “allweddol” o’r polisi iaith wedi ei ddileu ar gyfarwyddyd yr Arolygydd sy’n cynnal archwiliad o’r Cynllun, a hynny ar ôl i Horizon alw am ei ddileu, meddai ymgyrchwyr.

Fe gafodd y stori ei thorri ar y wefan hon fis Hydref diwetha’.

Mae’r cymal dan sylw – ‘Gwrthod cynigion fyddai, oherwydd ei faint, raddfa neu leoliad yn achosi niwed sylweddol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned’ – yn un sy’n cael ei ddisgrifio gan y mudiadau iaith fel “congl-faen” polisi iaith Gwynedd a Môn ym maes cynllunio.

Ond mae Pwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn, sy’n cynrychioli Cymdeithas yr Iaith, Dyfodol i’r Iaith, Cylch yr Iaith a Chanolfan Hanes Uwchgwyrfai, wedi derbyn llythyr oddi wrth Nia Haf Davies, Rheolwr yr Uned sy’n gyfrifol am weinyddu’r broses o greu’r Cynllun ar ran Gwynedd a Môn, yn cadarnhau bod yr Arolygydd Cynllunio o’r farn bod galwad cwmni Horizon i’r cynghorau dynnu’r cymal penodol o’r Cynllun yn gais dilys.

“Mae’n gwbwl annerbyniol bod yr Arolygydd wedi cydsynio â chais Horizon, ac wedi wfftio barn Comisiynydd y Gymraeg a sylwadau’r Cynghorydd Ieuan Williams, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn,” meddai’r mudiadau.

“Mae barn y mudiadau iaith a Chomisiynydd y Gymraeg yn cael ei hanwybyddu, a dylanwad cwmni Horizon yn llwyddo i newid polisi iaith dau gyngor sir.

“Y cwestiynau y mae’n rhaid eu gofyn ydi beth ydi barn y Grŵp Llywio Asesu Effaith ar yr Iaith Gymraeg a sefydlwyd gan Horizon, a pham na chaiff aelodau’r ddau gyngor y cyfle i ystyried mater mor dyngedfennol?

“Nid mater sy’n ymwneud â chodi tai ar gyfer mewnlifiad Cynllun Wylfa Newydd yn unig mor hwn. Bydd dileu’r cymal yn effeithio ar bob math o ddatblygiadau tai yn y ddwy sir.”

Ymateb Horizon 

“Nid yw newid y geiriad yn effeithio ar ein hymrwymiad i’r Gymraeg mewn unrhyw ffordd,” meddai llefarydd ar ran Horizon. “Ond mae’n caniatáu i ni ganolbwyntio ar ddarparu’r Prosiect gorau posib, gan sicrhau manteision i’r Gymraeg, i’w diwylliant ac i’r economi am genedlaethau i ddod.

“Bydd Wylfa Newydd yn darparu gyrfaoedd o ansawdd uchel ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn y tymor hir.  Ein pryder gyda’r canllawiau cynllunio lleol drafft haf diwethaf, fel yr oeddent wedi cael eu hysgrifennu, oedd nad oedd y cymal yn ystyried effeithiau tymor byr posibl ar y Gymraeg, nac unrhyw fesurau lliniaru a fyddai’n helpu i leihau unrhyw effeithiau negyddol.

“Gallai hyn fod wedi stopio’r Prosiect Wylfa Newydd rhag bwrw ymlaen, ni waeth pa mor fach neu dymor byr fyddai effaith y Prosiect.”

Y cefndir

Cyn dechrau Gwrandawiad yr Archwiliad ar Fedi 9 y llynedd, galwodd cwmni Horizon am ddileu’r cymal dan sylw er mwyn hwyluso caniatâd cynllunio i ddatblygiadau arfaethedig Cynllun Wylfa Newydd.

Mewn ymateb i hynny, anfonodd Comisiynydd y Gymraeg lythyr at yr Arolygydd yn datgan bod y cymal yn gwbl ddilys a derbyniol ac yn gyson â Nodyn Cyngor Technegol 20 ac â darpariaethau iaith Deddf Gynllunio (Cymru) 2015 sy’n gwneud y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol wrth ystyried ceisiadau cynllunio.

Bryd hynny, cafwyd hefyd ddatganiad gan Arweinydd Cyngor Môn, yn amddiffyn y cymal iaith ac yn beirniadu Horizon am geisio ymyrryd.