Mae busnes yswiriant car sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd wedi rhybuddio ynglŷn â chynnydd posib yn ei brisiau, yn dilyn newid i sut fydd rhagdaliadau yn cael eu cyfrifo.

Gwnaeth cwmni Admiral weithredu mis Rhagfyr diwethaf i gynyddu eu prisiau ac maen nhw wedi addo cynnydd pellach wrth iddyn nhw geisio adennill colled £150 miliwn o ganlyniad i’r newid i’r system cyfrifo.

Cyhoeddodd Arglwydd Ganghellor llywodraeth y Deyrnas Unedig, Liz Truss, newid i’r sustem gyfrifo ‘Ogden’ wythnos ddiwethaf, fydd yn arwain at gynnydd i daliadau dioddefwyr anafiadau difrifol.

Mae Prif Weithredwr Admiral wedi cyfeirio at y newid fydd yn arwain at gyfraddau yn cael eu torri o 2.5% i finws 0.75% o Fawrth 20 ymlaen, fel “penderfyniad ecsentrig gan y Llywodraeth.”

Er y golled i’w elw mae Admiral wedi dweud bydd eu staff o 9,000 o bobol yn derbyn cyfranddaliadau â gwerth cyfanswm o £3,600 flwyddyn yma.