Cefnogwyr Neil McEvoy o flaen cynhadledd Plaid Cymru yr wythnos ddiwetha
Ychydig oriau wedi cael ei wahardd dros dro gan Blaid Cymru, mae’r Aelod Cynulliad, Neil McEvoy, wedi dweud wrth Golwg360 nad yw am ymddiheuro am “sefyll i fyny” dros etholwr yn yr achos tenantiaeth a ddechreuodd yr helynt.

Mae’r AC yn dweud y bydd yn mynd â’r achos hwnnw i’r Uchel Lys “i ddangos fy mod yn gwneud y peth iawn” – sylwadau ar ddiwedd achos a gollodd ei etholwr oedd wedi arwain at ei ddisgyblu am “fwlian” un o swyddogion Cyngor Caerdydd.

Ond roedd yn gwrthod dweud rhagor am benderfyniad Plaid Cymru i’w atal dros dro o  garfan y Blaid yn y Cynulliad.

‘Unedig’

“Alla’ i ddim dweud mwy ar hyn o bryd. Mae hwn yn waharddiad dros dro tan fy mod i a’r grŵp yn gallu cytuno ar ddatganiad gyda’n gilydd,” meddai Neil McEvoy.

“Rydyn ni’n unedig fel grŵp ond mae angen imi gymryd cyngor cyfreithiol cyn inni gytuno ar ein datganiad felly mae’n iawn fy mod wedi cael fy ngwahardd dros dro tan hynny.

“Fe allwn i fod yn ôl gyda’r grŵp o fewn rhai oriau ond mae’n rhaid imi siarad â fy Margyfreithiwr yn gyntaf,” ychwanegodd.