Mabon ap Gwynfor
Mae ymgyrchydd Plaid Cymru o Dde Clwyd yn pryderu y gallai sefyllfa debyg i’r hyn a welwyd yn Llangennech fod ar droed yn ysgolion Dyffryn Ceiriog yn y gogledd ddwyrain.

Yn ei flog, dywed Mabon ap Gwynfor iddo glywed rhai agweddau beirniadol i’r cynllun o droi Ysgol Gynradd Cynddelw o fod yn ysgol dwy ffrwd i fod yn ysgol Gymraeg yn unig.

Fe gafodd ymgynghoriad i’r newid ei gynnal yn gynharach eleni gan Gyngor Wrecsam, ac fe gafodd y newid ei gymeradwyo.

Ond mae ‘camgymeriad gweinyddol’ yn golygu fod yn rhaid cynnal ail ymgynghoriad i newid statws iaith yr ysgol, ac yn ôl blog Mabon ap Gwynfor, mae rhai wedi mynegi beirniadaeth i’r cynllun mewn papurau newydd lleol.

‘Dim galw’

Mae Mabon ap Gwynfor yn cyfeirio’n benodol at erthygl ym mhapur newydd y Leader sy’n cynnwys sylwadau gan gynrychiolydd o’r undeb athrawon NASUWT, Stephen Witherden, sy’n awgrymu “nad oes galw” am addysg benodedig cyfrwng Cymraeg ymhob ardal.

Ond mae Mabon ap Gwynfor wedi dadlau yn erbyn hynny gan ddweud fod mwy o ddisgyblion wedi dewis dilyn addysg Gymraeg yn Ysgol Cynddelw nac addysg Saesneg.

Mae hefyd yn awgrymu y gallai’r rhai sy’n dymuno addysg Saesneg yn unig fynd i Ysgol Pontfadog dwy filltir i’r dwyrain sydd o dan reolaeth yr un pennaeth a’r un bwrdd llywodraethol.

Er hynny, mae niferoedd yr ysgol honno’n peri pryder ac yn ôl Mabon ap Gwynfor, “os yw’r disgyblion hynny sy’n dymuno addysg Saesneg yn mynd i Bontfadog, fe allai hynny gynyddu’r niferoedd i gadw’r ysgol ar agor.”

Dywedodd fod y cynrychiolydd o’r undeb athrawon wedi dweud fod “diffyg dewis” o ran cyfrwng iaith ysgolion yr ardal, ond bod hynny yn “anghyson” yn ôl Mabon ap Gwynfor.

“Rwy’n petruso i ddweud fod hyn yn wrth-Gymreig, ond dydw i ddim yn gallu meddwl am gymhelliad arall,” ychwanegodd Mabon ap Gwynfor.

Cefndir

Mae modd darllen ei flog yn llawn yma.

Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb Cyngor Wrecsam i’r ymgynghoriad.

Mae Mabon ap Gwynfor yn cyfeirio at y ffrae yn Sir Gaerfyrddin wrth i’r Cyngor Sir gymeradwyo newid statws Ysgol Llangennech i fod yn ysgol cyfrwng Gymraeg.