Llun: PA
Mae llefarydd addysg Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod disgyblion sy’n astudio trwy’r Gymraeg “yn cael chwarae teg” yn sgil trafferthion gweinyddol ar gyrsiau lefel A a TGAU Cymraeg eu hiaith.

Dywed Aelod Cynulliad Gogledd Cymru, Llŷr Gruffydd bod y “Gymraeg yn cael ei thrin fel anghyfleustra” a bod myfyrwyr sydd am ddysgu trwy’r Gymraeg “dan anfantais” yn dilyn problemau darparu gwerslyfrau dwyieithog.

“Mae athrawon a myfyrwyr sydd am ddilyn cyrsiau yn y Gymraeg yn parhau i fod dan anfantais oherwydd methiant Cydbwyllgor Addysg Cymru, y Llywodraeth a’r cwmnïau sy’n gyfrifol am argraffu’r gwerslyfrau i ddarparu deunydd dwyieithog,” meddai.

Ni fydd yr un plentyn yng Nghymru yn dilyn cwrs TGAU Seicoleg drwy’r Gymraeg eleni  oherwydd problemau darparu gwerslyfrau a deunydd yn y Gymraeg, ac mae’n debyg gwnaeth athrawon Bioleg dderbyn gwerslyfrau Bywydeg A2 Cymraeg ddeufis cyn diwedd y cwrs tra roedd y fersiwn Saesneg ar gael haf diwethaf.

“Mynnu Cydraddoldeb”

“Mynnu cydraddoldeb ydan ni yma – mae’r Llywodraeth yma’n sôn am gefnogi’r Gymraeg ond mae’n methu a gwneud hynny yn y ffordd fwyaf ymarferol. Dyw hi ddim yn ormod gofyn am werslyfrau Cymraeg a Saesneg i fod yn barod mewn da bryd er mwyn i fyfyrwyr gael chwarae teg,” meddai Llŷr Gruffydd.

“Ar hyn o bryd, mae’r Gymraeg yn cael ei thrin fel anghyfleustra. Dyw hi ddim yn deg ar fyfyrwyr, athrawon na’r iaith ac mae’n hen bryd i’r Llywodraeth dderbyn cyfrifoldeb am sicrhau chwarae teg i’r Gymraeg mewn addysg.”

Mae Golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am sylw.