Mae deiseb ar-lein wedi’i sefydlu yn galw ar Lywodraeth Prydain i fynnu ymddiheuriad gan Lywodraeth yr Unol Daleithiau am wahardd athro Mwslimaidd o Aberdulais rhag teithio ar awyren.

Cafodd Juhel Miah, sy’n athro yn Ysgol Uwchradd Llangatwg yn Aberdulais, ei rwystro rhag teithio o Wlad yr Iâ i Efrog Newydd ar Chwefror 16.

Fe gafodd ei dywys oddi ar yr awyren yn Reykjavik, er bod ganddo fisa dilys ar gyfer y daith, ac fe gafodd ei rwystro rhag mynd i mewn i Lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yno.

Mae’r ddeiseb yn nodi y dylai Llywodraeth Prydain “fynnu ar unwaith esboniad ac ymddiheuriad gan Lywodraeth yr Unol Daleithiau.”

“Rydym ni’n mynnu fod y llywodraeth yn sefyll yn erbyn y gamdriniaeth hon i Juhel Miah,” ychwanegodd y ddeiseb.

Cyngor teithio

Mae Prif Weinidog Cymru wedi galw ar yr Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, i barhau â’r mater yn uniongyrchol ag awdurdodau’r Unol Daleithiau.

Yn ei lythyr, mae Carwyn Jones yn cyfeirio at gyngor teithio Llywodraeth Prydain ers i’r Arlywydd Donald Trump gyhoeddi gorchymyn yn atal dinasyddion o saith gwlad Fwslemaidd rhag teithio i’r Unol Daleithiau.

Mae cyngor teithio Llywodraeth Prydain yn nodi na fydd deiliaid pasbort y Deyrnas Unedig, beth bynnag yw gwlad eu geni neu a oes ganddynt basbort arall, yn cael eu heffeithio.

Fe gadarnhaodd yr Ysgrifennydd Tramor wrth Dŷ’r Cyffredin ddiwedd mis Ionawr eu bod wedi cael cadarnhad am hyn gan lywodraeth yr Unol Daleithiau.

‘Islamoffobig’

Ac mewn datganiad wedi’r digwyddiad, fe alwodd Cyngor Mwslemaidd Cymru yr achos yn weithred o “wahaniaethu Islamoffobig llwyr.”

Bydd yn rhaid i’r ddeiseb gyrraedd 10,000 o lofnodion cyn i’r Llywodraeth ymateb iddo.