Prifysgol Aberystwyth
Mae bardd a chyfieithydd Cwrdaidd wedi teithio i Gymru er mwyn cyfieithu rhai o chwedlau’r Mabinogi i iaith Cwrdeg.

Yn ystod ei wythnos ym Mhrifysgol Aberystwyth bydd Salih Agir Qoserî yn gweithio gyda’r cyfieithydd barddoniaeth a llenyddiaeth Dwrcaidd, Caroline Stockford, gyda’r nod o gyfieithu’r chwedlau Cymreig i Kurmandji.

Bydd hefyd yn ymweld ag Ysgol Gyfun Penweddig yn Aberystwyth, ysgol Bishop Vaughan yn Nhreforys ac yn mynychu Ffair Lyfrau Llundain.

Mae Salih Agir Qoserî bellach yn byw yn ninas Mardin yn Nhwrci, ac wedi cyfieithu nifer o lyfrau Swedeg, Saesneg a Thwrceg i’r Gwrdeg, gan gynnwys ‘1984‘.

Ieithoedd lleiafrifol

Mae’r fenter wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Rhaglen Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd a chafodd y cyfnod preswyl ei drefnu gan PEN Cymru a Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau.

“Un o’n prif amcanion yw gwneud ysgrifennu iaith leiafrifol yn fwy gweladwy felly rydyn ni’n falch iawn o fod wedi gallu trefnu’r ymweliad hwn â Chymru a’r cyfle i ddathlu cyfoeth llenyddol y Cwrdiaid yn Nhwrci,” meddai Cyfarwyddwr Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, Alexandra Büchler.

“Bydd ei ymweliadau ag ysgolion a’r digwyddiadau cyhoeddus yn tynnu sylw at sefyllfa’r iaith a’r diwylliant Cwrdaidd ac rydym yn falch o allu hwyluso cyfieithu’r Mabinogi i’r Cwrdeg a chwedlau Cwrdaidd i’r Gymraeg,” dywedodd Cyfarwyddwr PEN Cymru, Sally Baker.