CFfi Talybont yn dathlu
Mae mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru yn dathlu wedi iddyn nhw lwyddo i godi £76,100 i brynu adeilad eu pencadlys ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.
Daeth y cyhoeddiad ar drothwy penwythnos gwledd o adloniant y mudiad yn Theatr y Dywysoges Frenhinol ym Mhort Talbot.
Fel rhan o’r ŵyl, fe ddaeth Clwb Ffermwyr Ifanc Tal-y-bont o Geredigion i’r brig yn y gystadleuaeth Gymraeg gyda pherfformiad o ‘Cynulleidfa gyda 2’ yn dilyn hynt a helynt y diddanwr Dai Jones, Llanilar gyda Dewi Jenkins yn cipio’r actor gorau am ei berfformiad ohono.
Canlyniadau eraill…
CFfI Maldwyn ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth Saesneg, ac fe gafodd Carys Thomas o Sir Gaerfyrddin ei phenodi’n aelod hŷn y flwyddyn a Gemma Owen o Faldwyn ei phenodi’n aelod iau’r flwyddyn.
Doedd yr ŵyl ddim yn cael ei darlledu ond mae label y Corryn Du o Lanfyrnach yn Sir Gaerfyrddin yn darparu DVD o’r perfformiadau.
Prynu adeilad y CFfI
Yn ôl ym mis Tachwedd, fe wnaeth CFfI Cymru sefydlu ymgyrch ‘Prynu Bric’ i geisio codi £76,100 i brynu llawr gwaelod yr adeilad yn Llanelwedd y maen nhw’n gweithredu ohoni ers yr 1990au.
“Rydym ni wrth ein bodd cael cyhoeddi ein bod wedi llwyddo i gyflawni ein targed o £76,100, diolch i haelioni aelodau, cyn-aelodau a chyfeillion y sefydliad, ac fe wnaiff hynny ein galluogi i fynd at i brynu’r adeilad,” meddai Arwel Jones, Cadeirydd CFfI Cymru.
Ond mae’r mudiad yn dweud eu bod nhw’n dal i godi arian er mwyn cynnal gwaith adnewyddu ar yr adeilad.