Bu 30 o ddiffoddwyr tân yn brwydro tân mewn tŷ yn Llanelwedd ym Mhowys yn oriau man y bore ma.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i’r adeilad pedwar llawr yn Nheras Llanelwedd am 1.30 fore dydd Llun, 6 Mawrth.

Mae’r tân bellach wedi cael ei ddiffodd ac ni chafodd unrhyw un hanafu.

Roedd yr adeilad yn wag ac nid yw’n glir ar hyn o bryd beth achosodd y tân.