Mark Drakeford Llun: Senedd.tv
Mae Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru wedi annog y Trysorlys i roi’r gorau i gyni a buddsoddi rhagor mewn gwasanaethau cyhoeddus a rhoi hwb i’r economi.

Mewn llythyr at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, mae Mark Drakeford wedi mynegi pryder ynglŷn â phenderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fwrw ymlaen â thoriadau gwerth £3.5 biliwn i wariant cyhoeddus yn 2019-20.

“Does dim rhaid gwneud y toriadau hyn ac maen nhw’n wrthgynhyrchiol. Mae’n amser i Lywodraeth y DU roi diwedd ar ei pholisi cyni niweidiol a darparu’r ysgogiad cyllidol y mae ei angen i wella hyder yn yr economi a chefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.”

Mae cyllideb Llywodraeth Cymru eisoes yn is nag oedd hi yn 2010 a gall toriadau ar y raddfa yma arwain at ostyngiad o £175 miliwn yng nghyllideb Cymru.

Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Yn y llythyr, mae Mark Drakeford hefyd yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gymryd camau penodol er mwyn sicrhau gwireddiad cynllun Bargen Ddinesig Bae Abertawe – sef cynllun i roi hwb economaidd i’r ddinas.

Mae’r camau yma yn cynnwys defnyddio Cyllideb y Gwanwyn ddydd Mercher fel cyfle i lofnodi Bargen Ddinesig Bae Abertawe, trydaneiddio prif lwybr drenau Great Western i Abertawe a Gweithredu ar Adroddiad Hendry ar gynllun ynni’r llanw’r ddinas.

“Mae cynnydd da wedi’i wneud o ran y cynnig ar gyfer Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Yn fy marn i – ac ym marn Llywodraeth Cymru – mae’r fargen yn barod i gael ei llofnodi. Rwy’n croesawu’r sylwadau cadarnhaol a wnaeth y Canghellor yn Nhŷ’r Cyffredin yn ddiweddar, a oedd yn rhoi neges galonogol bod modd cyflawni hyn.”