Mae Heddlu Gwent yn apelio o’r newydd wedi ymosodiad ar ferch yng Nghwmbrân fore dydd Gwener.
Digwyddodd yr ymosodiad am oddeutu 8.30 y bore mewn lôn ar Ffordd Henllys y dref.
Mae’r dyn sy’n cael ei amau yn ei 20au cynnar, wedi eillio a chanddo wallt tywyll byr.
Mae e’n 5’6″, o gorffolaeth denau, ac roedd yn gwisgo dillad du ac yn cario ymbarél ddu.
Roedd ganddo acen leol.
Yn dilyn yr ymosodiad, fe gerddodd i ffwrdd i gyfeiriad Coed Efa.
Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion i’r digwyddiad.