Mae dynes oedrannus mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl cael ei tharo gan gar Fiat Ducato.
Digwyddodd y gwrthdrawiad yn Abertyleri am oddeutu 12.15pm ddydd Gwener, a chafodd y ddynes sydd yn ei 70au ei chludo i’r ysbyty yn Y Fenni.
Mae dyn 57 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.