Leanne Wood (llun senedd tv)
Mae rhannau helaeth o Gymru’n cael eu hanwybyddu gan y Llywodraeth, meddai arweinydd Plaid Cymru.

Dyna fydd prif neges Leanne Wood wrth iddi annerch cynhadledd wanwyn y Blaid yng Nghasnewydd.

Fe fydd hi’n cyhuddo Llywodraeth Cymru o wneud yr un peth â Llywodraeth Prydain a bod yn Twm Sion Cati o chwith – yn rhoi cyfoeth i’r ardaloedd cyfoethog yn hytrach na’r tlawd.

‘Anwybyddu’

Fe fydd hi hefyd yn rhoi’r Cymoedd, yr ardaloedd gwledig a’r Gogledd-ddwyrain i gyd yn yr fasged, gan honni eu bod yn diodde’ oherwydd ffafriaeth i Gaerdydd a choridor yr M4.

“Dyw swyddi, cyfoeth a ffyniant ddim yn cael eu gwasgaru’n gyfartal trwy’r wlad,” meddai.

“Rwy’n clywed yr un teimladau o bobol yn cael eu hanwybyddu yn y maes glo ag yr ydw i yn y Drenewydd, yn Wrecsam, ym Mhorthmadog a Bangor.”

Fe fydd hi’n tynnu sylw arbennig at benderfyniad Llywodraeth Cymru i osod pencadlys yr awdurdod trethi newydd -= Awdurdod Cyllid Cymru – yn Nhrefforest ger Caerdydd gan anwybyddu Wrecsam a Phorthmadog lle mae swyddfeydd trethi eisoes.

Ar y llaw arall, fe fydd hi’n hawlio’r clod i Blaid Cymru am godi’r drafodaeth eto am ailagor rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin a chael arian i dalu am astudiaeth.

Beirniadu’r Fargen Ddinesig

Mae hi wedi beirniadu’r syniad o Fargen Ddinesig sy’n ffafrio Caerdydd, gan ddadlau bod eisiau rhannu cyfoeth.

“R’yn ni eisiau i’r Admiral nesa’ – y stori lwyddiant Gymreig nesa’ – gael ei bencadlys yn rhywle fel Aberdar, Treherbert neu Maerdy.”