Mae Cyngor Conwy wedi penderfynu eu bod am adfer ac ail-ddatblygu Pier Bae Colwyn yn “bier byrrach.”

Yn dilyn cyfarfod y bore yma  mae’r cyngor wedi penderfynu eu bod am adfer y pier yn rhannol gyda’r nod o ail greu pier mwy sylweddol yn y dyfodol.

Bydd y Cyngor yn cefnogi Ymddiriedolaeth Pier Fictoria Colwyn wrth iddyn nhw ddatblygu cynigion a cheisiadau cyllid am adferiad cyflawn.

Mae cynghorwyr hefyd wedi penderfynu eu bod am  storio rhannau o’r pier sydd o werth treftadol gyda’r nod o’u hailddefnyddio fel rhan o ailddatblygiad llawnach “gan drydydd parti”.

Cwympo i’r môr

Pleidleisiodd y Cyngor i ddymchwel y pier yn 2013 ond cafodd y cais ei wrthod gan Lywodraeth Cymru yn 2015.

Bellach mae’r pier Gradd II yn adfail sydd yn raddol wedi bod yn disgyn i’r môr wrth i fframwaith yr adeiledd erydu.

Cwympodd dau rhan o’r adeilad fictorianaidd i’r môr fis diwethaf gydag un disodliad yn digwydd yn ystod tywydd garw Storm Doris.