Bydd cloc a dderbyniodd priodferch ar achlysur ei phriodas yn Y Felinheli yn 1932, yn cael ei ddychwelyd i’w theulu yng Nghymru – diolch i waith ymchwil trwy wefan gymdeithasol Facebook.

Fe ddaeth y casglwr clociau, Phil Appleby, o Dagenham o hyd i’r cloc dan sylw saith mlynedd yn ôl mewn sêl cist car yn nhre’ Abbeyshrule yn Iwerddon.

Ond brynhawn dydd Mercher yr wythnos hon (Mawrth 1) fe benderfynodd bostio neges ar Facebook ynghyd â llun o’r cloc gan ddweud: “Er fy mod i’n caru’r cloc, mi hoffwn ei ddychwelyd i’r teulu… bydd yn edrych yn well ar ei sil ben tân nhw.”

Ar y cloc pren hen ffasiwn oedd plac bach â’r testun: “Cyflwynwyd i Miss Sophie Williams gan Eglwys Moriah Port Dinorwic ar ei phriodas, Mehefin 1af 1932.”

Brwd

O fewn dim amser, fe fu ymateb brwdfrydig i’r post, gyda nifer yn ceisio cynorthwyo’r casglwr clociau i ddod o hyd i deulu ‘Sophie Williams’.

Daeth i’r amlwg fod perchennog gwreiddiol y cloc, sef y briodferch Sophie Williams, yn rhoi gwersi piano i blant pentref Felinheli, a bod dau ddisgynnydd iddi – Marion Owen a Catherine – yn byw yn y pentref o hyd.

Bellach mae Phil Appleby wedi cysylltu â Marion Owen, ac mewn neges arall ar y wefan cadarnhaodd, “Mae’r cloc yn dychwelyd adref!”