Joanna Marston, stori yng nghylchrawn Golwg yr wythnos hon
Mae un o lywodraethwyr carchar newydd gogledd Cymru yn dweud wrth golwg360 bod cynnig gwasanaethau yn Gymraeg “yn bwysig ofnadwy”.

Joanna Marston, 46 oed ac yn wreiddiol o Waunfawr ger Caernarfon, yw Pennaeth Atal Aildroseddu HMP Berwyn.

Mae hi’n Gymraes lân loyw ac yn dweud bod yna swyddogion Cymraeg ym mhob un o adrannau’r carchar, er mwyn cynnig yr holl wasanaethau yn ddwyieithog.

Mae llywodraethwyr HMP Berwyn yn canolbwyntio ar adfer y dynion yn eu gofal, gan gynnig addysg a chyfleoedd i ddysgu sgiliau iddyn nhw, fel eu bod yn medru dychwelyd i’w cymunedau a chael gwaith.

Ac mae cynnig gofal i’r carcharorion yn Gymraeg yn greiddiol i waith y carchar, yn ôl Joanna Marston.

“Os mae dynion yn ypset neu os mae ganddyn nhw anghenion cymhleth, mae hi’n bwysicach fyth bod nhw yn medru siarad yn iaith gyntaf nhw,” meddai.

Saith gwaith y stadiwm rygbi

Mae’r carchar yn dal 2,100 o ddynion ac ar y safle, sydd tua saith gwaith yn fwy na’r stadiwm rygbi cenedlaethol yng Nghaerdydd.

Hefyd ar y safle mae coleg a thros 100 o athrawon sy’n cynnig pob math o gyrsiau gan gynnwys y cyfle i ddysgu siarad Cymraeg.

Ac o fewn y coleg mae llyfrgell gyda llyfrau Cymraeg. Mae rhai wedi beirniadu’r ffaith fod ffôn, gliniadur a chawod ym mhob cell yn HMP Berwyn.

Ond mae llywodraethwyr y carchar yn mynnu bod angen y cyfleusterau modern er mwyn cynorthwyo’r dynion i droi eu cefnau ar droseddu a chamymddwyn.

Mae Joanna Marston yn egluro sut y mae gallu cael gwasanaeth yn eu mamiaith yn bwysig i garcharorion:

Carchar Wrecsam “ddim yn cwshi” – mwy gan Joanna Marston yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.