Mae’r pêl-droediwr, Gareth Bale, wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn agor tafarn yng Nghaerdydd.

Ar ei gyfri’ Twitter heddiw, ar Ddydd Gwyl Dewi, mae’n dweud mai Elevens Bar Grill fydd enw’r dafarn chwaraeon ar safle’r hen Dempsey’s yng nghanol y brifddinas.

golwg360 oedd y cynta’ i dorri’r stori am fwriad ymosodwr Real Madrid i agor tafarn, sydd wedi’i gadarnhau heddiw.

“Dw i wrth fy modd i allu cyhoeddi ar Ddydd Gwyl Dewi y bydd fy nhafarn chwaraeon yn agor yng Nghaerdydd,” meddai Gareth Bale.