Fe gafodd staff papur newydd y Daily Post wybod ddoe am gynlluniau i symud i swyddfa newydd – mewn datganiad gan yr archfarchnad Lidl.

Roedd y datganiad yn sôn am y cynlluniau i ail-ddatblygu’r safle yng Nghyffordd Llandudno a’i droi’n archfarchnad, gyda swyddfa’r Daily Post yn symud i Fae Colwyn, ac yn cyfeirio at y safle fel “hen safle’r Daily Post”.

Doedd staff ddim wedi cael gwybod yn swyddogol gan gwmni Trinity Mirror, sy’n berchen y papur, a doedd rhai staff ddim hyd yn oed yn gwybod am y cynlluniau.

Ar y safle newydd ym Mae Colwyn, fe fydd y Daily Post yn rhannu swyddfeydd â’r Caernarfon and Denbigh Herald, y North Wales Weekly News a’r Bangor and Holyhead Mail.

Cafodd y Daily Post ei sefydlu yn Lerpwl yn 1855, ond fe symudodd i Gyffordd Llandudno yn 2000. Mae’r papur yn cael ei argraffu yn Oldham.