Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Dewi Sant yn Llanelli yn dathlu 70 mlynedd heddiw.

Hon oedd yr ysgol benodedig Gymraeg gyntaf i gael ei sefydlu gan awdurdod lleol, a hynny ar Fawrth 1, 1947.

34 o ddisgyblion oedd yn yr ysgol bryd hynny, a dim ond dwy athrawes. Bellach mae gan yr ysgol 450 o blant ar y gofrestr.

Fel rhan o’r dathliadau, fe fydd gwasanaeth a seremoni gadeirio yn cael eu cynnal yn yr ysgol cyn gwasanaeth arbennig yng Nghapel Seion y dref am 12.30pm, lle bydd plac arbennig yn cael ei osod i goffáu’r achlysur.

Ar ôl y gwasanaeth, fe fydd jambori dan ofal y diddanwr plant Martyn Geraint yng Nghanolfan Selwyn Samuel.

Bydd y BBC a chwmni teledu Tinopolis yn dilyn y cyfan.

Pen-blwydd hapus

Mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi dymuno pen-blwydd hapus i’r ysgol.

Dywedodd Lynne Davies, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG: “Ar ddydd ein nawddsant cenedlaethol, mae’n addas a phriodol i ni nodi a dathlu twf aruthrol Addysg Gymraeg ers y dyddiau cynnar.

“Mae’n bwysig cofio pa mor bell y mae mudiad yr ysgolion Cymraeg wedi dod dros y 70 mlynedd diwethaf ac mae’n arwyddocaol bod ardal Llanelli wedi arwain y ffordd.

“Cafwyd cynnydd ac enillion nodedig, ond mae llawer o waith eto i’w wneud i ateb y galw cynyddol am ddarpariaeth addysg Gymraeg sy’n hwylus ac o fewn pellter rhesymol i bob cartref.

“Mae’r galw yn Llanelli ac mewn trefi a phentrefi ledled Cymru sydd eto heb ei ddiwallu.

“Heb gyfraniad allweddol y gyfundrefn addysg, bydd targed uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr erbyn 2050 yn anghyraeddadwy.

“Mae cofio agor yr ysgol Gymraeg gyntaf yn ôl yn 1947 yn ysbrydoliaeth ac yn ysgogiad i gyrraedd y nod hwnnw.”