Plismyn ar y traeth yn Sousse, Tiwnisia Llun: PA
Mae Crwner wedi cofnodi rheithfarn o ladd anghyfreithlon yn achos 30 o deithwyr o Brydain a gafodd eu lladd yn y gyflafan yn Tiwnisia yn 2015.

Ond daeth y Barnwr Nicholas Loraine-Smith i’r casgliad na fu achos o esgeulustod ar ran y cwmni teithio cyn yr ymosodiad pan gafodd 38 o bobl eu saethu’n farw gan ddyn arfog ar draeth yn Sousse.

Dywedodd na allai’r cwmni teithio TUI na pherchnogion a staff gwesty Riu Imperial Marhaba fod wedi gwneud mwy cyn yr ymosodiad a fyddai wedi gwneud gwahaniaeth.

Er hyn, roedd cyfreithwyr y dioddefwyr wedi galw am ddyfarniad o esgeulustod gan gyhuddo’r cwmni o beidio â rhybuddio ymwelwyr am y peryglon o deithio i Diwnisia.

Mae teuluoedd y rhai fu farw bellach yn bwriadu dwyn achos sifil yn erbyn cwmni TUI, sy’n berchen Thomson. Maen nhw’n dadlau na wnaeth y cwmni ddigon i rybuddio teithwyr ynglyn a’r peryglon yn Tiwnisia.

‘Llwfr’

Roedd Trudy Jones, 51 oed, o’r Coed Duon yng Ngwent ymhlith y 38 o dwristiaid gafodd eu lladd ar draeth yn Sousse ar 26 Mehefin 2015 gan ddyn arfog, Seifeddine Rezgui.

Dechreuodd y cwest i achos y teithwyr o Brydain ar Ionawr 16 gan bara saith wythnos, ac fe wnaeth y barnwr gydnabod fod ymateb yr heddlu lleol wedi bod yn “llwfr.”

Clywodd y cwest nad oedd llawer o swyddogion diogelwch gan y gwesty, ac roedd y rheiny heb eu harfogi.

Yn ogystal, cyfrifoldeb yr heddlu oedd sicrhau diogelwch yr ymwelwyr, a chlywodd y llys eu bod yn araf yn cyrraedd safle’r gyflafan.

“Roedd ymateb yr heddlu ar y gorau yn ddi-drefn, ac ar ei waethaf yn llwfr,” meddai’r Barnwr yn ei gasgliadau. Dywedodd bod yr oedi cyn mynd i’r traeth wedi bod yn “fwriadol ac nad oedd modd ei gyfiawnhau.”

Mae’r crwner wedi cyhoeddi rheithfarn unigol ar bob un o’r rhai fu farw.