Llun: PA
Mae adroddiad newydd yn dangos fod mwy o bobol hŷn Cymru yn ei chael hi’n anodd trefnu apwyntiadau â’u meddygon teulu.

Yn ôl adroddiad Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru mae “amrywiadau annerbyniol” ym mhrofiadau pobol oedrannus wrth geisio ymweld â meddygon teulu.

Fe wnaeth 1,600 o bobol hŷn ymateb i’r adroddiad ac er bod nifer wedi canmol y gwasanaeth, roedd rhai problemau’n gadael effaith negyddol ar iechyd, yn ôl y Comisiynydd.

‘Pwysau sylweddol’

Am hynny mae’r Comisiynydd, Sara Rochira, yn galw ar Fyrddau Iechyd Cymru i fod yn fwy hyblyg i anghenion pobl hŷn, yn enwedig rhai sydd â nam ar y synhwyrau, nam gwybyddol neu ddementia, gofalwyr neu rai sy’n agored i niwed.

“Rwy’n deall y pwysau sylweddol sy’n wynebu gwasanaethau Meddygon Teulu a’r sector gofal sylfaenol ehangach, a’r heriau gwirioneddol y gall y pwysau hwn eu creu,” meddai Sarah Rochira.

“Ond mewn cyfnod fel hwn, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn gwrando ar brofiadau pobl hŷn ac yn eu deall er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw bryderon a chyflwyno gwelliannau parhaus er mwyn sicrhau na fydd yn rhaid talu cost uwch yn y pen draw,” ychwanegodd.