Twneli Brynglas ar yr M4 (Llun: Gwefan Llywodraeth Cymru)
Bydd ymchwiliad cyhoeddus i gynlluniau Llywodraeth Cymru  ar gyfer ffordd liniaru’r M4 o gwmpas Casnewydd yn dechrau heddiw.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw adeiladu ffordd newydd  gwerth £1.1bn rhwng Magwyr a Chas-bach i fynd i’r afael â’r tagfeydd o gwmpas twneli Brynglas.

Os caiff y cynllun ei gymeradwyo mae disgwyl y bydd gwaith ar yr heol yn dechrau yng Ngwanwyn 2018 ac yn dod i ben yn yr Hydref 2022.

Yn ôl Llywodraeth Cymru bwriad y cynllun yw mynd i’r afael â phroblemau “cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd” yr M4.

Hefyd caiff ehangu’r heol ei weld fel “rhan allweddol o’r weledigaeth ar gyfer sustem drafnidiaeth effeithlon ac sydd wedi ei integreiddio, yn ne Cymru.

 “Dinistrio cynefinoedd”

Mae nifer o fudiadau cadwraeth wedi gwrthwynebu’r cynlluniau gan ddadlau y byddai’r datblygiad yn arwain at ddinistrio cynefinoedd.

Medd y RSPB mewn llythyr ar y cyd â nifer o fudiadau cadwraeth eraill, y gall y datblygiad ddinistrio safle nythu cyntaf garanod yng Nghymru “ers dros 400 mlynedd”.

“Os bydd y draffordd yn cael ei hadeiladu, bydd yn dinistrio coetiroedd hynafol a milltiroedd o ddyfrffyrdd a ffosydd sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau. Bydd yn dinistrio cynefinoedd sy’n cael eu defnyddio gan bathewod, dyfrgwn, ystlumod, llygod pengrwn y dŵr. Bydd yn peryglu dyfodol un o wenyn prinnaf y DU, sef y gardwenynen dreiddgar.

“Cafodd y cais am draffordd newydd ei grybwyll yn y lle cyntaf 25 mlynedd yn ôl; ac felly, yn syml, nid yw’n syndod nad yw’n cydymffurfio â gofynion ein dealltwriaeth fodern o ddatblygu cynaliadwy, sy’n rhan o gyfraith Cymru erbyn hyn.  Yn y cyd-destun newydd hwn, ni ddylai’r cais presennol erioed fod wedi cyrraedd ymholiad cyhoeddus.”