Llun: PA
Bydd Carchar Y Berwyn ger Wrecsam yn agor ei ddrysau heddiw am y tro cyntaf, wedi bron i ddwy flynedd o waith adeiladu.

Bydd y carchar, sydd wedi costio £212 miliwn, yn dal 2,000 o garcharorion gydag tua 40 o’r rheiny yn cyrraedd yno heddiw.

Carchar y Berwyn yw’r mwyaf yng ngwledydd Prydain bellach, a’r unig un yng ngogledd Cymru.

Cafodd y carchar ei henwi ar ôl rhostir mynyddoedd y Berwyn sydd i’r gorllewin o’r dref yn dilyn ymgyrch gan ysgolion, grwpiau lleol ac aelodau o’r cyhoedd i’w henwi.

Diwygio Carchardai

Cafodd y carchar ei adeiladu fel rhan o gynllun gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddiwygio carchardai yng Nghymru a Lloegr yn dilyn cyfnod cythryblus.

Yn ystod y flwyddyn hyd at Fehefin 2016 bu 6,000 o ymosodiadau ar staff carchardai a 105 o garcharorion wedi cyflawni hunan laddiad.

Mae Llywodraeth y Deyrnas unedig wedi addo gwario £1.3 biliwn ar garchardai newydd yn dilyn terfysg yng Ngharchar Birmingham y llynedd.