Huw Vaughan-Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad heddiw sy’n amlygu fod colegau addysg bellach Cymru yn ‘llwyddo i ymdopi’ er gwaethaf toriadau mewn grantiau.

Er hyn, mae’n pwysleisio fod angen cynllun hirdymor ar gyfer cyllido colegau addysg bellach, ac mae sefydliad Colegau Cymru wedi cefnogi’r alwad hynny.

Mae adroddiad yr Archwilydd yn tynnu sylw at doriadau o £22 miliwn mewn cyllid grant gan Lywodraeth Cymru rhwng 2012/13 a 2016/17.

Er hyn, mae cyllid craidd darpariaeth amser llawn wedi codi 3% mewn termau real, gyda chyllid ar gyrsiau rhan-amser wedi gostwng 71% sy’n adlewyrchu penderfyniad Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu darpariaeth resymol ddigonol ar gyfer pobol ifanc 16-19 oed.

Gwelliannau

“Er bod colegau addysg bellach wedi llwyddo i ymdopi â’r toriadau yn eu cyllid dros y blynyddoedd diwethaf, mae’n amlwg bod eu cyllid dan straen gynyddol ac y gallent ei chael yn anodd cynnal swm a sylwedd y ddarpariaeth ar y lefelau presennol,” meddai Huw Vaughan-Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Dywedodd fod rhai colegau’n teimlo na allant barhau i ddiogelu pobol ifanc 16 i 19 oed os bydd toriadau pellach.

Am hynny, mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y gwelliannau canlynol:

  • mynnu bod colegau yn paratoi cynlluniau ariannol tymor canolig a rhagolygon tymor hir;
  • datblygu mecanwaith sy’n cyplysu cyllid yn agosach â’r galw tebygol am addysg bellach ym mhob maes;
  • gwerthuso effaith y gostyngiadau mewn cyllid ar ddysgwyr er mwyn llywio penderfyniadau i’r dyfodol o safbwynt polisïau a chyllid.

‘Tymor hir’

Mae Colegau Cymru wedi croesawu’r adroddiad gan alw am gynlluniau tymor hir o ran cyllido.

“Er mwyn i Gymru fod yn chwaraewr blaenllaw mewn termau economaidd, mae angen agwedd integredig gyda chylch cyllido o dair blynedd ar gyfer y sector sgiliau ac ôl-16,” yn ôl Prif Weithredwr Colegau Cymru, Iestyn Davies.

“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arddangos yr un fath o agwedd a dycnwch i sicrhau’r fargen orau bosib i ddysgwyr Addysg Bellach.”