Llun: PA
Mae astudiaeth newydd wedi canfod fod cysylltiad rhwng nifer y plant sydd mewn gofal ag ardaloedd o dlodi ar draws y Deyrnas Unedig.
Yng Nghymru, mae plant mewn ardaloedd tlotaf Cymru 16 gwaith yn fwy tebygol o fod mewn gofal o gymharu ag ardaloedd mwy breintiedig.
Fe gymerodd pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ran yn yr astudiaeth, gyda 2,936 o blant ar y gofrestr amddiffyn plant (sampl 100%) a 5,350 o blant mewn gofal (sampl 95%).
‘Canlyniadau negyddol’
Mae’r astudiaeth yn cael ei gyflwyno yn Llundain heddiw, ac fe gafodd ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd, Caeredin, Coventry, Sheffield, Huddersfield, Stirling a Phrifysgol Queen’s Belfast.
Fe wnaethon nhw archwilio data mwy na 35,000 o blant oedd naill ai mewn gofal neu ar gynlluniau amddiffyn plant ym mis Mawrth 2015.
“Rydym yn gwybod bod tlodi ac anghydraddoldeb yn arwain at gymaint o ganlyniadau negyddol,” meddai’r Athro Jonathan Scourfield o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd.
“Wrth gwrs, nid yw hyn yn golygu bod pob plentyn sy’n byw mewn ardal dlawd mewn perygl, ond mae yna gysylltiad rhwng camdriniaeth, esgeulustod a byw mewn tlodi,” meddai.
“Yng Nghymru, mae angen i waith amddiffyn plant a gwaith i leihau tlodi fynd law yn llaw.”
Ffigurau pellach
- mae plant yn y 10% o gymdogaethau mwyaf difreintiedig Cymru 24 gwaith yn fwy tebygol o fod ar y gofrestr amddiffyn plant na phlant yn y 10% lleiaf difreintiedig;
- Ar draws gwledydd Prydain, mae cynnydd mewn amddifadedd yn arwain at gynnydd o tua thraean yn y tebygolrwydd y bydd plentyn mewn gofal;
- Eto ym Mhrydain, mae mwy o blant yn byw yn y 20% o gymdogaethau mwyaf difreintiedig, yn enwedig yng Ngogledd Iwerddon.