Hywel Williams yn Nhy'r Cyffredin
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Hywel Williams wedi tynnu sylw Tŷ’r  Cyffredin at achos myfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor sy’n wynebu cael ei hanfon yn ôl i Sri Lanka yfory.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin prynhawn ma, bu Hywel Williams, AS dros Arfon, yn feirniadol o’r Swyddfa Gartref am fethu a rhoi digon o ystyriaeth i achos Shiromini Satkunarajah, gan gyhuddo’r Llywodraeth o laesu dwylo.

Mae mwy na 30,000 o bobl bellach wedi arwyddo deiseb yn galw ar yr Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd i ddiddymu’r gorchymyn i’w hestraddodi, er mwyn iddi allu parhau a’i hastudiaethau ym Mhrifysgol Bangor lle mae hi’n astudio peirianneg electroneg.

Mae disgwyl i Shiromini Satkunarajah, 20,  gael ei hanfon yn ôl i Sri Lanka ddydd Mawrth. Roedd hi a’i theulu wedi ffoi o’r wlad pan oedd hi’n 12 oed gan ddod i fyw yn y DU.

Cafodd ei harestio ddydd Iau diwethaf, ar ôl i’r awdurdodau wrthod ei chais am loches.

Wrth annerch Tŷ’r Cyffredin heddiw, dywedodd Hywel Williams: “Ymhen tri mis fe allai Shiromini Satkunarajah gwblhau ei gradd mewn peirianneg electroneg ym Mhrifysgol Bangor ac mae disgwyl iddi gael gradd dosbarth cyntaf.

“Mae hi wedi cael ei disgrifio gan bennaeth yr adran fel person ‘abl iawn a diwyd.’ Mae ’na brinder byd-eang o raddedigion yn ei phwnc.

“Mae hi wedi dilyn y rheolau mewnfudo i’r llythyren. Ond pan alwodd yng ngorsaf heddlu Caernarfon yr wythnos ddiwethaf fe gafodd ei harestio, ei chadw yn y celodd am dridiau a’i throsglwyddo i Yarl’s Wood (canolfan gadw).

“Rwyf wedi cysylltu â’r Gweinidog Mewnfudo droeon i ofyn iddo ddefnyddio doethineb yn ei hachos, sydd â chefnogaeth eang ymhlith y cyhoedd gan gynnwys gan rai o aelodau’r Tŷ.

“Hyd yma nid yw wedi ymateb. Mae disgwyl iddi adael yfory.”

Mae Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andy John, hefyd wedi ymuno yn y galwadau i beidio ei hanfon yn ôl i Sri Lanka.