Pier Bae Colwyn (Llun o wefan Bae Colwyn)
Mae Cyngor Conwy wedi cadarnhau y bydd y gwaith o atgyweirio Pier Fictoria Bae Colwyn yn dechrau’r wythnos hon.

Mae disgwyl i’r gwaith bara tair wythnos a hynny wedi i ran arall o’r pier ddisgyn i’r môr yr wythnos diwethaf ynghanol storm Doris.

Mae disgwyl i’r contractwyr ddechrau ar y gwaith ddydd Mercher (Mawrth 1) gan ddatgysylltu’r darn sydd wedi cwympo oddi wrth weddill y pier a chlirio’n darnau hynny oddi yno.

Wedi hynny bydd y gwaith o ddatgymalu gweddill y darn o’r pier sy’n estyn allan i’r môr yn cychwyn.

Bydd trefniadau diogelwch yn parhau yn eu lle ar gyfer yr adeilad rhestredig Gradd II, ac mae swyddogion iechyd a diogelwch yn monitro’r safle.