Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Julie James yn cwrdd a swyddogion yr Urdd
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd cyfle i ddeunaw o bobol ifanc weithio gyda’r mudiad fel prentisiaid o fis Medi ymlaen.

Mae’r Urdd wedi cynnig cyflogaeth i 40 o bobol ifanc drwy’r cynllun prentisiaeth dros y tair blynedd diwethaf.

Ac yn ôl Sioned Hughes, Prif Weithredwr yr Urdd, “drwy gynnig y prentisiaethau yma, rydym yn rhoi cyfle i bobol ifanc weithio mewn diwydiant sydd o ddiddordeb iddynt, trwy gyfrwng y Gymraeg, wrth ennill cymwysterau a phrofiad bywyd.”

‘Calonogol iawn’

Fe ddaw cyhoeddiad yr Urdd wythnos cyn ymgyrch Wythnos Prentisiaeth Genedlaethol Cymru sy’n cael ei chynnal yr wythnos nesaf, rhwng 6 – 10 o Fawrth.

“Mae prentisiaethau yn hanfodol ar gyfer cael economi lwyddiannus a Chymru gryfach ac wedi ei brofi yn llwybr cynaliadwy i gyflogaeth a ffyniant,” meddai Julie James, Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru.

“Yn gynharach yn y mis, fe wnes i gyhoeddi ein polisi prentisiaeth newydd fydd yn canolbwyntio mwy ar ddatblygu sgiliau o lefel uwch gan hybu mwy o gyfleoedd i unigolion dderbyn prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu yn ddwyieithog felly mae’n galonogol iawn fod yr Urdd yn gobeithio penodi 18 o bobl ifanc eto fel prentisiaid ym mis Medi 2017.”